Skip to main content

Fynychu | Attend

Education Buildings Wales

Fynychu | Attend

Mae’r broses gofrestru ar gyfer Adeiladau Addysg Cymru 2025 ar agor nawr!

Registration for Education Buildings Wales 2025 is now open!

 

View in English

 

P’un a ydych yn gweithio ym maes polisi, cynllunio, pensaernïaeth neu adeiladu, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i gysylltu â chymuned addysg Cymru.

Cynhadledd Adeiladau Addysg Cymru yw’r unig ddigwyddiad o’i fath sy’n rhoi sylw i adeiladau addysgol yng Nghymru. Mae’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac eleni bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â chyllid, dyluniad, adeiladwaith, a systemau cynnal a chadw a rheoli mewn ysgolion, colegau, a phrifysgolion. 

 

Archebwch eich lle

Delegate Types

Beth mae’r tocyn yn ei gynnwys?

Beth mae’r tocyn yn ei gynnwys?

Mae pob pàs cynrychiolydd yn cynnwys:

👉Mynediad i sesiynau cynhadledd achrededig DPP.

👉Cyfleoedd i rwydweithio â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol.

👉Cinio a choffi am ddim drwy’r dydd!

Ddim yn siŵr ydych chi’n perthyn i’r sector cyhoeddus ynteu’r sector preifat?

Cysylltwch â Aurora

Cynadleddwyr Sector Cyhoeddus

Cynadleddwyr Sector Cyhoeddus

Mae mynediad i Adeiladau Addysg Cymru yn ddi-dâl i’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Bydd holl gynrychiolwyr y sector cyhoeddus yn cael eu gwirio wrth gofrestru.

Cofrestu ar gyfer y sector cyhoeddus

Cynadleddwyr Sector Preifat

Cynadleddwyr Sector Preifat

Sylwer: mae ‘sector preifat’ yn cyfeirio at bawb NAD yw’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol mewn ysgol neu sy’n gynrychiolydd o’r llywodraeth neu awdurdod lleol.

Conference Pass: £230 (+ VAT)

 

 

Cofrestu ar gyfer y sector preifat

Pwy ddylai ddod i’r gynhadledd?

Director of Estates Education Buildings Wales

Cyfarwyddwyr Ystadau

Cyfarfod gweithwyr proffesiynol o’r un anian, sy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar bosibiliadau adeiladau addysgol yng Nghymru. Trafod heriau cyffredin, dysgu o brofiadau eich cymheiriaid, darganfod yr arferion gorau, a chanfod beth mae rheoli ystadau da yn ei olygu i’r rhai sy’n gyfrifol am adeiladau addysgol ledled Cymru.

Educational Leaders Education Buildings Wales

Arweinwyr Addysgol

Creu amgylcheddau sy’n ysbrydoli ac yn dod â’r gorau allan o’ch holl fyfyrwyr. Cyfarfod a bod yn rhan o rwydwaith o arweinwyr addysgol o bob cwr o Gymru, cael ysbrydoliaeth o’r prosiectau diweddaraf, trafod heriau cyffredin a dod o hyd i atebion y gellid eu cyflwyno er mwyn gwella eich cyfleuster eich hun.

Government and Local Authority Representatives Education Buildings Wales

Cynrychiolwyr y Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol

Cyfarfod cynrychiolwyr llywodraethau ac awdurdodau lleol o bob cwr o Gymru. Darganfod y blaenoriaethau a’r heriau a wynebir gan gynghorau lleol a thrafod y targedau a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio i’w cyflawni, tra’n dysgu am yr adeiladau addysgol mwyaf arloesol yng Nghymru.

Architects Education Buildings Wales

Penseiri

Darganfod a chyfarfod partneriaid newydd ar gyfer prosiectau ledled Cymru. Darganfod cymhlethdodau dylunio ar gyfer adeiladau addysgol, yn ogystal ag enghreifftiau o’r arferion gorau yn ddiweddar. Rhwydweithio â phenseiri eraill sydd â phrofiad yn y sector a gweld drosoch eich hun sut y byddwch yn rhan o ddyfodol adeiladau addysgol yng Nghymru.

Consultants Education Buildings Wales

Ymgynghorwyr

Dod o hyd i bartneriaid newydd ar gyfer prosiectau ledled Cymru a darganfod yr enghreifftiau diweddaraf o’r arferion gorau mewn amgylchedd dysgu a’i gymhlethdodau. Cyfarfod ymgynghorwyr eraill sydd â phrofiad yn y sector, o feysydd cyllido a chynllunio, rheoli prosiect, rheoli ystadau da a chynnal a chadw.

Contractors & Suppliers Education Buildings Wales

Contractwyr a Chyflenwyr

Rhwydweithio â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol a darganfod prosiectau sydd ar y gweill a allai elwa o’ch arbenigedd, boed fel prif gontractwr neu fel cyflenwr cynnyrch a gwasanaethau hanfodol, megis adeiladau modiwlaidd, oddi ar y safle a chludadwy, ystafelloedd ymolchi, gwresogi, awyru ac aerdymheru, toeau, cladin, inswleiddio, acwsteg, dodrefn, lloriau, goleuadau, ffenestri a drysau, gwasanaethau / rheoli cyfleusterau a thechnoleg, offer chwarae a chwaraeon, dodrefn stryd a chanopïau, technoleg, ac yn y blaen.

SAVE THE DATE

Sponsor Partner | Partner sy’n noddi:


 

 

Event Supporters | Cefnogwr y gynhadledd:



 

Awards Charity | Elusen Wobrwyo:

Prostate Cancer UK