Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cysylltu safbwyntiau rhanddeiliaid drwy Ddylunio sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth mewn Ysgolion ADY
Carly Parramore, AtkinsRéalis
Mae'r cyflwyniad hwn yn dangos sut gwnaeth dull cymysg, yn seiliedig ar dystiolaeth, gysylltu profiadau staff a myfyrwyr ysgolion ADY i lywio'r dyluniad. Drwy ddefnyddio holiaduron darluniadol fel rhan o ddull cymysg o ymgysylltu â rhanddeiliaid, fe wnaethom nodi themâu allweddol ar draws profiadau staff a myfyrwyr gan gynnwys pwysigrwydd mannau tawel, rhyngweithio cymdeithasol ac ardaloedd hyblyg sy'n rhoi dewis i fyfyrwyr. Cafodd profiadau eu cyfuno i fapiau cyfagosrwydd ac argymhellion, gan drosi’r dystiolaeth yn strategaethau dylunio ymarferol.
Dylunio ar gyfer ADY: Creu Mannau Dysgu Cynhwysol ar gyfer y Dyfodol
Peter Fisk, Lovelock Mitchell Architects, Samuel McCourt de Sanchez, Curtins & Andrew Garner, Wynne Construction
Mae Ysgol Robert Owen yn garreg filltir arwyddocaol yn narpariaeth addysg ADY Powys, gan gydbwyso hyblygrwydd, cynhwysiant a chynaliadwyedd. Wedi'i chynllunio er mwyn gallu ei haddasu i’r graddau mwyaf posib, mae'r ysgol yn cefnogi ystod lawn o anghenion ADY, o Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog i Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig, gyda nodweddion fel goruchwyliaeth oddefol, dynodi llwybr di-dor, a thirwedd ddysgu drochi. O dan arweiniad Peter Fisk (Lovelock Mitchell Architects), Samuel McCourt de Sanchez (Curtins), ac Andrew Garner (Wynne Construction), mae'r sesiwn hon yn archwilio dulliau arloesol o ddylunio addysg ADY a sut gwnaeth cydweithio ysgogi rhagoriaeth o ran dylunio a chyflenwi. Bydd cynadleddwyr yn cael cipolwg ymarferol ar gynaliadwyedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac amgylcheddau ADY perfformiad uchel.