Defnyddio Efeilliaid Digidol i greu Adeiladau a Champysau mwy clyfar: Data, Dyluniad, a’r Llwybr at Sero Net
Trawsffurfio Adeiladu Addysg gyda Thechnoleg Gefell Digidol
Frederic Gal, Technical Director, Bouygues & Marion Senesi, Dassault Systemes, Industry Solution Experience Director, Architecture, Engineering and Construction
Digidol yw dyfodol adeiladu ysgolion a champysau. Mae Technoleg Gefell Digidol yn chwyldroi sut rydyn ni’n dylunio, yn adeiladu ac yn rheoli cyfleusterau addysg - gan wella’r cydweithio, lleihau costau a gwella cynaliadwyedd. Mae Bouygues UK, mewn partneriaeth â Dassault Systèmes, yn defnyddio Technoleg Gefell Digidol i hyrwyddo atebion effeithlon sy'n seiliedig ar ddata sy'n cyflymu amserlenni prosiectau ac yn cefnogi nodau sero net. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut gall y dechnoleg arloesol hon ail-siapio’r sector addysg ac yn trafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â'i mabwysiadu.
Trawsnewid Campysau wedi'i Arwain gan Dystiolaeth a’i Ysgogi gan Ddata: Helpu Prifysgolion yng Nghymru i wneud mwy gyda llai
Karl Brown & Gina Callaghan, HLM Architects
Uwchgynllunio wedi'i arwain gan dystiolaeth a’i ysgogi gan ddata. Symud oddi wrth flaenoriaeth o nodi safleoedd a dull gwastraffus o ‘adeiladu eich hun allan o broblem’. Mae ein hagwedd ni’n ymwneud â gwneud mwy gyda llai – cefnogi prifysgolion yng Nghymru i wneud penderfyniadau gwybodus, a’u galluogi i wella'r defnydd o'u lleoedd. Bydd y sesiwn hon yn archwilio gwaith HLM gyda Phrifysgol Keele a Phrifysgol Sheffield, gan roi cipolwg allweddol ar uwchgynllunio ystadau cymhleth. Cyflwyno HLM Place, datrysiad digidol newydd sy’n chwyldroi cynllunio campysau drwy fewnwelediadau sy’n cael eu hysgogi gan ddata, bydd cynadleddwyr yn dysgu am strategaethau i wneud y gorau o ystadau yng Nghymru ar gyfer anghenion y dyfodol, a hynny i gyd wrth wella profiad myfyrwyr.