Iechyd a Llesiant
Addysg ar gyfer Cymunedau Cryf: Dylunio ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Oliver Thomas & Helen Taylor, Scott Brownrigg
Mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi llywio'r broses ddylunio wrth adeiladu cymunedau gwydn, cynhwysol a llewyrchus.
Creu mannau dysgu awyr agored ysbrydoledig
Mary Jackson, Learning Through Landscapes
Mae plant a phobl ifanc yn treulio cymaint â diwrnod yr wythnos ar dir eu hysgol, gan wneud y mannau hyn yn bwysig ar gyfer dysgu, chwarae a llawer mwy, ac mae Learning through Landscapes (elusen tiroedd ysgol, dysgu awyr agored a chwarae y DU) wedi bod yn helpu dylunwyr ac ysgolion i wneud y gorau o'r mannau awyr agored hynny ers 35 mlynedd. Yn y cyflwyniad hwn fe welwch chi sut mae ysgolion yn y DU ac o gwmpas y byd yn creu mannau anhygoel i ddisgyblion ddysgu, chwarae a chysylltu â natur ac rydyn ni’n ystyried beth sy'n eu gwneud nhw’n lleoedd ysbrydoledig.