Ymchwilio i greu Dyluniadau Da
Sut mae Amgylcheddau Meddylgar mewn Ysgolion yn Grymuso Pob Myfyriwr
Richard Croyden, DB3 Group
Nid waliau ac ystafelloedd dosbarth yn unig yw’r broses o ddylunio ysgol - mae'n ymwneud â chreu mannau sy'n grymuso myfyrwyr. Gall dewisiadau dylunio sydd wedi’u hystyried yn ofalus wella canlyniadau dysgu hyd at 16%. Felly sut allwn ni greu amgylcheddau sy’n grymuso pob myfyriwr? Yn DB3, rydyn ni’n mynd i'r afael â'r heriau hyn bob dydd. Ar ôl dylunio Uned Cyfeirio Disgyblion Bryn y Deryn, yr unig uned atgyfeirio disgyblion yng Nghaerdydd, rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar ymddygiad a llesiant. O olau naturiol ac ansawdd aer i seicoleg lliw a mannau y gellir eu haddasu, byddwn yn archwilio'r egwyddorion dylunio allweddol sy'n creu amgylcheddau dysgu i gefnogi’r genhedlaeth nesaf.
Dysgu Cymdeithasol @ Prifysgol: cwricwlwm, diwylliant, campws
Dr Hiral Patel, Katherine Quinn & Dr Laura Shobiye, Cardiff University
Mae adroddiad ymchwil Dysgu Cymdeithasol @ Prifysgol yn cynnig fframwaith newydd ar gyfer dylunio amgylcheddau prifysgol sy’n blaenoriaethu dysgu cymdeithasol. Mae’n diffinio dysgu cymdeithasol fel “proses sy'n seiliedig ar berthnasoedd sy'n creu gwerth i'r hunan, i eraill ac i gymdeithas yn ehangach.” Mewn ymateb i heriau cynyddol iechyd meddwl, pwysau ariannol, modelau dysgu hybrid, a chyfrifoldebau dinesig, mae’r adroddiad yn dadlau dros brofiadau campws sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn, galluogedd a chydweithio mewn profiadau dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Cyfraniad allweddol yw’r model “Clymu–Pontio–Cysylltu”, sy’n egluro sut mae myfyrwyr yn llunio cysylltiadau o fewn cymunedau, ar draws rhwydweithiau, a gyda chymdeithas ehangach. Mae’r adroddiad yn galw am aliniad gwell rhwng y cwricwlwm, rhyngwyneb staff, amserlen a mannau ar y campws i alluogi dysgu cymdeithasol.
I symud y tu hwnt i ddehongliadau cul o “fannau dysgu cymdeithasol,” mae’r adroddiad yn cyflwyno C-Space - cysyniad ar gyfer holl ardaloedd y campws sy'n cefnogi dysgu cymdeithasol y tu allan i sesiynau wedi'u hamserlennu. Mae'n pwysleisio bod angen stiwardiaeth weithredol ar fannau o'r fath.
Cyflwynir Teclyn Mesur C-Space i gefnogi dysgu dolen driphlyg barhaus drwy gwestiynau fel: Ydyn ni'n gwneud pethau'n iawn? Ydyn ni'n gwneud y pethau cywir? Sut rydyn ni'n penderfynu beth sy'n iawn?
Mae’r gwaith hwn, a gomisiynwyd gan AUDE, Fforwm Dylunio Prifysgolion, a Willmott Dixon, yn edrych ar ddysgu cymdeithasol ar waith gyda myfyrwyr, academyddion, ystadau, a gweithwyr dylunio proffesiynol.