Inclusive Learning Environments: Belonging, Wellbeing and Trauma-Informed Practice
Ysgol Cynefin: Cenhedlaeth Nesaf Caerdydd o Ysgolion ADY
Mae'r sesiwn hon yn edrych ar y broses o sicrhau darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) y mae mawr ei hangen yng Nghaerdydd drwy drawsnewid hen Ysgol y Llys yn Ysgol Cynefin. Mae’r ysgolion, sydd ar draws dau safle newydd yn y Tyllgoed a Llanrhymni, yn mynd i'r afael â'r galw cynyddol am addysg arbenigol. Wedi'i seilio ar y cysyniad o Gynefin - mae'r dyluniad yn creu amgylcheddau cynhwysol, cynhaliol sy'n cefnogi llesiant a hunaniaeth. Mae’r sesiwn, sy’n cynnwys gwybodaeth gan Laura Sampford, Cyngor Caerdydd, a Jamyn Beesley, Pennaeth, yn rhannu’r gwersi yn sgil cyflawni ar y cyd, alinio'r cwricwlwm a chreu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.
Dylunio Ysgol gydag Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma mewn golwg!
Mae dylunio ysgolion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan ddefnyddio Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma yn canolbwyntio ar greu amgylcheddau diogel, cefnogol sy'n helpu myfyrwyr sydd wedi profi trawma i ffynnu. Mae'r dull hwn, sydd wedi'i wreiddio mewn gofal iechyd ond sy'n fwyfwy hanfodol mewn addysg, yn pwysleisio dylunio sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'i arwain gan ymchwil a phrofiad bywyd. Mae elfennau allweddol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, diogelwch, llesiant emosiynol, cysylltiad cymdeithasol, gofodau addysg a therapi integredig, a chefnogaeth staff. Mae dyluniad meddylgar fel golau naturiol, cynlluniau hyblyg, ac ystafelloedd synhwyraidd yn gymorth o safbwynt rheoleiddio a dysgu emosiynol. Mae dylunio sy'n ystyriol o drawma yn symud y tu hwnt i bensaernïaeth i helpu unigolion i wella, cynhwysiant a thwf i ddysgwyr a staff agored i niwed fel ei gilydd.


