Cydweithio rhwng y Sector Cyhoeddus a Phreifat – Darparu ysgolion trwy MIM a'r gwersi rydyn ni wedi'u dysgu
Mae WEPCo, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, wedi darparu pedair ysgol newydd yng Nghymru drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, gan gynnwys Campws Mynydd Isa. Fel y prosiectau addysg MIM gweithredol cyntaf, maen nhw’n cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio’n effeithiol. Bydd y sesiwn hon yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd o gynllunio, dylunio, adeiladwaith, a gweithredu cynnar, yn ogystal â safbwyntiau gan Gyngor Sir y Fflint a thîm Campws Mynydd Isa. Bydd yn archwilio’r llwyddiannau, yr heriau a’r ymddygiadau sy’n dod i’r amlwg sy’n cefnogi gwaith partneriaeth cryf wrth ddarparu amgylcheddau dysgu modern.


