Skip to main content

Adeiladau Addysg Cymru 2026

Education Buildings Wales

Loading

Trawsnewid Campysau Addysg Bellach: Cydweithio, Ailddefnyddio ac Adfywio

30 Jun 2026
Level 4

Cydweithio i sicrhau cyllid a dylunio llwyddiannus

Mae'r cyflwyniad hwn yn defnyddio prosiect nodedig Ardal Wybodaeth Casnewydd Coleg Gwent yng nghanol dinas Casnewydd fel astudiaeth achos, gan ddangos sut y gellir defnyddio cydweithio nid yn unig i gael gafael ar gyllid i adeiladu a chynnal a chadw yn y dyfodol, ond yn hollbwysig i sicrhau bod cyd-ddylunio yn ateb yr anghenion addysgol sydd o’r pwys mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd a'r dyfodol, gan gynnwys ar gyfer y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r prosiect hefyd yn edrych ar sut y gall y sector addysg fod yn rhan o adfywio canol y dref a'r stryd fawr yn llwyddiannus trwy ddull cydweithredol ag Awdurdodau Lleol.

Darparu Addysg Bellach drwy Addasu Adeiladau Presennol a'i Effaith ar Ymddygiad, Lles a Dysgu

Yn sgil cwblhau’r gwaith o adnewyddu Prif Adeilad Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant yn ddiweddar, mae Rio Architects a'r coleg yn myfyrio ar y cam cyntaf hwn o'r gwaith a'r cyfle unigryw a gafwyd i ail-lunio'r adeilad, gwella profiad y defnyddiwr, a dylanwadu ar ymddygiadau bob dydd ar draws y campws. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar Rio Architects gyda Choleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant, gan ddangos sut y gall ailddefnyddio drwy addasu ddylanwadu ar sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â'u hamgylchedd, sut mae staff yn defnyddio eu gweithle, a sut mae'r rhyngweithio yma’n cyfrannu at gampws cynaliadwy ac effeithlon, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd, perfformiad adeiladau, ac adborth gan staff a myfyrwyr.

Chairperson
Neil Thomas, Director - Strata Professional Development
Speakers
Alex Anderson, Associate Director Estates Development - Coleg Gwent
Kate Thomas, Director - Austin-Smith:Lord Ltd
Tim Young, Director and Education Lead - Austin-Smith:Lord
Lisa Garfield, Project Manager - WEPCo
Andrew Baker, Director and Architect - Rio Architects
View all Adeiladau Addysg Cymru 2026

SAVE THE DATE


 

 

Sponsor Partners | Partner sy’n noddi:



 

Event Supporters | Cefnogwr y gynhadledd: