Skip to main content

Cyrraedd Caerdydd | Getting to Cardiff

Education Buildings Wales

Cyrraedd Caerdydd | Getting to Cardiff

Cynllunio eich diwrnod yn nigwyddiad Adeiladau Addysg Cymru

Plan your day at Education Buildings Wales

View in English

Y Lleoliad

Cyfeiriad:

The Centre for Student Life, Cardiff University

Park Place

Cardiff

CF10 3BB.

Ystafell Gotiau:

Bydd lle i gadw cotiau ar gael wrth gofrestru. Gallwch chi gadw unrhyw fagiau mewn ystafell storio ar wahân.

Cofiwch nad yw’r brifysgol na’r trefnwyr yn cymryd cyfrifoldeb am yr eitemau sy’n cael eu storio ar y safle.

Cardiff University
Education Buildings Wales

Cyrraedd y Lleoliad

Cyrraedd y Lleoliad

Cofiwch nad oes modd parcio ar y safle a bod y meysydd parcio cyfagos yn defnyddio systemau talu ac arddangos. Mae opsiynau parcio eraill o fewn pellter cerdded hefyd:

 

Dumfries Place Maes Parcio

St Andrew’s Lane,

Cardiff,

CF10 3DD

0345 050 7080

 

NCP

Dumfries Place,

Cardiff,

CF10 3FN

0345 050 7080

Education Buildings Wales

Gyrru

M4 o gyfeiriad y Gorllewin

  • Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 32 a dilynwch arwyddion yr A470 am Gaerdydd
  • Rhybudd: Mae camerâu cyflymder ar hyd yr A470
  • Wrth i chi nesáu at ganol y ddinas byddwch chi’n cyrraedd cyfnewidfa / trosffordd Gabalfa
  • Ewch dros y drosffordd tuag at Heol y Gogledd (gan aros ar yr A470)
  • Ar ôl oddeutu milltir, cymerwch y troad i’r chwith (arwydd Prifysgol Caerdydd) i Heol Colum
  • Wrth y goleuadau traffig, ewch yn syth ymlaen tuag at Blas y Parc, arhoswch ar y ffordd hon am gyfnod byr. Byddwch chi’n gweld y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ar yr ochr chwith.

M4 o gyfeiriad y Dwyrain

  • Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 29 (arwyddion Dwyrain a De Caerdydd), ac yna ymunwch â thraffordd yr A48 (M)
  • Ar ben draw’r draffordd arhoswch ar yr A48 i mewn i Gaerdydd. Ewch yn eich blaen ( gan ddilyn arwyddion Canol y Ddinas)
  • Rhybudd: Mae camerâu cyflymder ar hyd yr A48
  • Arhoswch yn y lôn chwith (arwyddion Canol y Ddinas A470), ac yna cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan tuag at Heol y Gogledd
  • Ewch yn eich blaen ac yna ymunwch â Heol y Gogledd - A470
  • Rhybudd: Mae camerâu cyflymder ar hyd yr A470
  • Ar ôl oddeutu milltir, cymerwch y troad i’r chwith (arwydd Prifysgol Caerdydd) i Heol Colum
  • Wrth y goleuadau traffig, ewch yn syth ymlaen tuag at Blas y Parc, arhoswch ar y ffordd hon am gyfnod byr. Byddwch chi’n gweld y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ar yr ochr chwith.
Education Buildings Wales

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Trafnidiaeth Gyhoeddus

I’r rhai sy’n teithio ar drên neu fws i Gaerdydd, mae Canolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd oddeutu 20 munud o gerdded o Orsaf Caerdydd Canolog. Yr orsaf agosaf yw Cathays sydd oddeutu 5 munud o gerdded o’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr. Neu gallwch chi gael tacsi o ganol y ddinas. Cofiwch y bydd cost hyn yn amrywio yn dibynnu ar lif y traffig. Gofynnwch i’r gyrrwr eich gollwng yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ym Mhlas y Parc.

Y cod post yw CF10 3BB.

I gael gwybodaeth am deithio yma ar fws, dilynwch y ddolen isod i wefan Bysiau Caerdydd.

SAVE THE DATE

Sponsor Partner | Partner sy’n noddi:


 

 

Event Supporters | Cefnogwr y gynhadledd:



 

Awards Charity | Elusen Wobrwyo:

Prostate Cancer UK