Arddangos | Exhibiting
Cyfle i gyfrannu at y cynulliad blynyddol ar gyfer y sector addysg yng Nghymru
Drwy gymryd rhan yn Adeiladau Addysg Cymru gallwch chi gyflwyno eich brand i arweinwyr y sector addysg gan gynnwys uwch-gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau a’r cyrff cysylltiedig. Byddwch chi hefyd yn rhan o rai o brosiectau mwyaf ysbrydoledig ac arloesol y byd addysg yng Nghymru.
Mae Adeiladau Addysg Cymru yn rhoi mynediad digyffelyb i’n harddangoswyr at gyfarwyddwyr ystadau a chyfleusterau, penaethiaid addysg, awdurdodau lleol, penseiri a chontractwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.



