Dylunio ar gyfer Dysgu ac Adeiladu Dyfodol Cynaliadwy ar gyfer Addysg yng Nghymr
Designing for Learning & Building a Sustainable Future for Education in Wales
![]() |
|
Event Partner: Welsh Government |
|
30 June 2026 | Cardiff University |
| Gweld yn Cymraeg |
| Education Buildings Wales |
| Adeiladau Addysg Cymru |
| 30 June 2026 | Cardiff University |
Dylunio ar gyfer Dysgu ac Adeiladu Dyfodol Cynaliadwy ar gyfer Addysg yng Nghymr
Designing for Learning & Building a Sustainable Future for Education in Wales
Ymunwch â ni yng nghynhadledd flynyddol y sector addysg yng Nghymru!
Cynhadledd | Rhwydweithio
Galwad am Gyflwyniadau ar agor nawr!
Cynhadledd Adeiladau Addysg Cymru yw’r unig ddigwyddiad o’i fath sy’n rhoi sylw i adeiladau addysgol yng Nghymru. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac yn canolbwyntio ar ariannu, dylunio, adeiladu, cynnal a chadw, a rheoli ysgolion, colegau, a phrifysgolion.
Dyma lle mae syniadau a datblygiadau arloesol yn dod at ei gilydd i siapio dyfodol gofodau addysgol drwy gysylltu cyfeiriad polisi â chyflawni prosiectau. Drwy ddarparu llwyfan ar gyfer sgwrsio, cydweithio, a rhannu profiadau, mae'r digwyddiad yn rhoi cipolwg blynyddol ar ddyfodol yr ystâd ddysgu yng Nghymru.
Bod yn rhan o'r digwyddiad
Mae Adeiladau Addysg Cymru yn dod â pholisi ac ymarfer ynghyd drwy gysylltu syniadau ac arloesedd i lunio dyfodol addysg yng Nghymru. Mae'n darparu llwyfan hanfodol ar gyfer cydweithio, cyfnewid gwybodaeth a sgyrsiau strategol i gefnogi'r gwaith o greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy, cynhwysol sy'n perfformio'n dda ledled Cymru.
Beth fyddwn ni’n ei drafod?
Dyma'r digwyddiad blynyddol sy'n dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd ym maes addysg a'r amgylchedd adeiledig i archwilio dylunio cynaliadwy a chynhwysol, cyllid ac arloesedd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae'r digwyddiad yn arddangos yr arferion gorau, technolegau newydd, a strategaethau cydweithredol ar gyfer adeiladu ystâd ddysgu sy'n barod ar gyfer y dyfodol ledled Cymru.
Cynhadledd
Ar yr agenda mae’r prif heriau sy’n wynebau ystadau a chyfleusterau proffesiynol; bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn cyflwyno’r polisïau diweddaraf ac yn trafod tueddiadau pwysig gan gyfeirio at enghreifftiau a fydd yn ysbrydoli ac yn siapio dyfodol ein hamgylcheddau dysgu
Rhwydweithio
Dewch i gwrdd a hyrwyddo eich gwasanaethau i arweinwyr y sector yn y gynhadledd flynyddol sy’n denu dylanwadwyr y sector gyhoeddus, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a phawb sy’n cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio, cyflawni, adnewyddu, a darparu nwyddau/gwasanaethau ar gyfer adeiladau addysg.
Ymunwch â ni ar 30 Mehefin 2026 i ddarganfod mwy am ddylunio ar gyfer dysgu ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer addysg yng Nghymru.