Skip to main content

Education Buildings Wales

Gweld beth allech chi ei ddysgu | See what you could learn

View in English

Ar yr agenda mae’r prif heriau sy’n wynebu ystadau a chyfleusterau proffesiynol; bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r polisïau diweddaraf ac yn trafod tueddiadau pwysig gan gyfeirio at enghreifftiau a fydd yn ysbrydoli ac yn siapio'r dyfodol.

Trafod heriau cyffredin, dysgu o brofiadau eich cymheiriaid, darganfod yr arferion gorau, a chanfod beth mae rheoli ystadau da yn ei olygu i’r rhai sy’n gyfrifol am adeiladau addysgol ledled Cymru.
 

Cwrdd â’r siaradwyr eleni        Archebwch eich lle

Loading
08:30
  1. Cofrestru a Rhwydweithio
    60 mins
10:15
  1. Egwyl a Rhwydweithio
    45 mins
11:00
  1. Lecture Theatre
    60 mins

    Mae WEPCo, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, wedi darparu pedair ysgol newydd yng Nghymru drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, gan gynnwys Campws Mynydd Isa. Fel y prosiectau addysg MIM gweithredol cyntaf, maen nhw’n cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio’n effeithiol. Bydd y sesiwn hon yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd o gynllunio, dylunio, adeiladwaith, a gweithredu cynnar, yn ogystal â safbwyntiau gan Gyngor Sir y Fflint a thîm Campws Mynydd Isa. Bydd yn archwilio’r llwyddiannau, yr heriau a’r ymddygiadau sy’n dod i’r amlwg sy’n cefnogi gwaith partneriaeth cryf wrth ddarparu amgylcheddau dysgu modern. 

  2. Level 4
    60 mins

    Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gall dylunio ysgolion cynhwysol a chynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth greu amgylcheddau dysgu iachach a mwy effeithiol. Gan ddefnyddio ymchwil ac astudiaethau achos cyfredol, ac edrych ar gynlluniau a dyluniadau y gellir gweithredu arnynt a rhai sydd eisoes wedi cael eu rhoi ar waith, bydd y sesiwn yn tynnu sylw at sut y gellir siapio amgylcheddau ysgol i wella llesiant, canlyniadau dysgu, a pherfformiad amgylcheddol. 

12:00
  1. Cinio a Rhwydweithio
    60 mins
13:00
  1. Lecture Theatre
    60 mins

    Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y mae safonau dylunio amgylcheddol sy’n datblygu, addysg ôl-feddiannu a gwaith cynllunio buddsoddiadau’n strategol yn llunio dyfodol adeiladau addysg cynaliadwy yng Nghymru. Gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd o fframwaith Adeiladu’r Adran Addysg (DfE CF2025), rhaglen MIM Ysgolion Cymru a phrosiectau byw ar ystadau colegau, bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gall ysgolion a cholegau yng Nghymru ddarparu amgylcheddau dysgu carbon isel sy’n perfformio’n dda mewn ffordd fwy effeithlon a chost-effeithiol  gan ymateb i dargedau carbon Llywodraeth Cymru. 

  2. Level 4
    60 mins

    Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gall cydweithio, cyd-ddylunio ac addasu amgylcheddau addysgol presennol helpu i ddarparu dysgu sy’n cefnogi llesiant, diwylliant o ddysgu ac integreiddio cymunedol. Drwy roi sylw i ddwy astudiaeth achos gyferbyniol, datblygiad addysg newydd mawr yng nghanol dinas, a gwaith adnewyddu ar goleg chweched dosbarth, bydd y sesiwn yn edrych ar sut y gall dylunio ystyrlon ymateb i anghenion addysgol, cymdeithasol, a gweithredol sy’n esblygu, gan roi dysgwyr wrth galon y broses.

14:00
  1. Egwyl a Rhwydweithio
    60 mins
15:00
  1. Lecture Theatre
    60 mins

    Two sessions focus on designing inclusive ALN environments. One explores Ysgol Cynefin’s delivery in Cardiff, highlighting collaboration and creating spaces that support belonging and wellbeing. The other examines trauma informed design, showing how thoughtful, evidence-based approaches can support emotional regulation, inclusion and positive outcomes for learners and staff.

  2. Level 4
    60 mins

    Mae Ysgolion a Phrifysgolion yn cynhyrchu llawer o ddata ar draws eu hystadau. Mae mannau addysgu, llyfrgelloedd, ardaloedd astudio, a chyfleusterau cymorth yn cynhyrchu gwybodaeth yn barhaus drwy synwyryddion presenoldeb, systemau amserlennu, systemau mynediad ac adborth defnyddwyr. Ond, mae sawl sefydliad yn dal i gael trafferth trosi'r data hwn yn benderfyniadau gweithredol clir sy’n gwella defnydd o ofod, cynaliadwyedd, a phrofiad myfyrwyr a staff. 

16:00
  1. Symud i'r Sesiwn olaf
    10 mins
16:10
  1. Lecture Theatre
    50 mins

    Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y dirwedd sy’n esblygu o ran diogelwch, perfformiad adeiladau, a chynaliadwyedd yn y sector addysg, gan archwilio sut y gellir dylunio, darparu a rheoli ysgolion i fodloni gofynion amgylcheddol a diogelwch cynyddol, yn enwedig o'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Gan ddefnyddio ymchwil gyfredol, newidiadau deddfwriaethol, a phrofiad o brosiectau yn y byd go iawn, bydd y sesiwn yn ystyried dulliau adeiladu o’r newydd a gwaith adnewyddu, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig ag ysgolion ffrâm bren a diogelwch tân. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar y cydbwysedd rhwng uchelgeisiau cynaliadwyedd, cost, cydymffurfiaeth a risg tymor hir.  

17:00
  1. Lecture Theatre
    30 mins
17:30
  1. Adeiladau Addysg Cymru Derbynfa Diodydd
    60 mins
18:30
  1. Digwyddiad yn Cau
    0 mins

SAVE THE DATE


 

 

Sponsor Partners | Partner sy’n noddi:



 

Event Supporters | Cefnogwr y gynhadledd: